Pa le, Y gwnaf fy noddfa dan y ne', Ond yn ei glwyfau anwyl e', Y bicell gref aeth tan Ei fron, Agorodd ffynnon i'm glanhau; 'Rwy'n llawenhau fod lle yn hon. Gwych sain Fydd eto am y goron ddrain, Yr hoelion llym, a'r bicell fain, Wrth gofio 'rhai'n caiff uffern glwy': Cadwynau tynion ânt yn rhydd; Fe gaed y dydd - Hosanna mwy. Golch fi Oddi wrth fy meiau aml eu rhi' Yn afon waedlyd Calfari, Sydd heddyw'n llif o haeddiant llawn; Dim trai ni welir arni mwy, Hi bery'n hwy na bore a nawn.
John Roberts 1753-1834 neu Hugh Jones 1749-1825
1-2: Cas. o Hymnau ... Wesleyaidd 1844 Tôn [288.888]: Dorcas (D J James 1743-1831)
gwelir: |
Where Shall I make my refuge under heaven? But in his dear wounds, The strong spear went under His breast, A fount was opened to cleanse me; I am rejoicing that there is room in this. A brilliant sound Shall yet be about the crown of thorns, The sharp nails, and the acute spear, On remembering those getting a hellish wound: Tight chains went free; The day was got - Hosanna evermore. Wash me From my faults of manifold number In the bloody river of Calvary, Which is today a flood full of merit; No ebbing is to be seen upon it ever, It shall endure longer than morning and evening. tr. 2017 Richard B Gillion |
|